Pa effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector hyd yn hyn?
Sefydliad
- Costau cyffredinol yn cynyddu, felly nid yw’r cyllidebau (arferol) yn mynd mor bell
- Arbedion teithio wedi eu gwneud yng nghyfnod y pandemig a hynny bellach ar drai gyda mwy o gyfarfodydd wyneb yn wyneb (sydd hefyd yn newid diwylliannol gydag impact ar lesiant ac ar yr amgylchedd)
- Swyddi gwag mewn rhai mannau gyda phobl o bosib yn dymuno oriau llawn amser a/neu cyflogau uwch (oherwydd fod cyflogau’n dueddol o fod yn is yn y trydydd sector)
- Heriau recriwtio o bosib yn gysylltiedig gyda natur swyddi maes h.y. pobl yn gweld yn anodd cyfiawnhau cymryd swyddi sydd yn golygu teithio pan mae'n dod yn gynyddol ddrud i deithio. Hefyd, costau gwresogi tai’n cynyddu (ar gyfer y sawl sy’n gweithio o adref).
- Anodd rhagdybio a chynllunio cyllidebau’r flwyddyn/ddau nesaf oherwydd lefel chwyddiant uchel ac ansicrwydd cynyddol
Sector
- Wele uchod
- Cylchoedd Meithrin yn gweld cynnydd mewn costau craidd megis rhent, trydan a nwy ac hefyd bwyd. Hyn yn gwneud pethau’n anodd o safbwynt cyllid (gyda chyllidebau’n dynn yn barod)
- Angen help ar y cylchoedd (a sefydliadau) i negodi cytundebau tanwydd pan mae'r cytundebau masnachol presennol yn dod i ben.
- Anallu rhieni i dalu ffioedd Gofal Plant pan nad ydynt yn gymwys am ddarpariaeth wedi’i gyllido’n llawn (neu rhieni’n dewis gyrru eu plant am lai o amser gydag impact hynny ar ddatblygiad plant ac ar deuluoedd)
- Staffio yn gallu fod yn heriol oherwydd fod pobl yn chwilio am gyflogau ag oriau uwch
- Darganfod gwirfoddolwyr i bwyllgorau rheoli yn fwy heriol gan fod pobl angen rhoi blaenoriaeth i gyflog
- Mae darparu cinio am ddim i blant cynradd yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd ond nid yw’r cynnig ar gael i Gylchoedd Meithrin (er fod nifer ar safle ysgolion sy’n cynnig pryd poeth am ddim i blant ‘Derbyn’). Nid yw plant oed ‘meithrin’ mwn ysgolion ‘chwaith yn ddilys.
Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn anghildroadwy (e.e. lleoliadau'n cau, yn hytrach nag yn gyfyngiad dros dro yn unig ar weithgareddau)?
Sefydliad
- Mae yn bosib y bydd angen torri yn ôl ar rai elfennau gwariant yn y byr dymor. Mae gan y Mudiad gytundebau hir-dymor (o ran trydan a nwy) ond bydd bendant angen cynyddu costau eraill o fewn y gyllideb.
- Bydd angen priodoli mwy o amser i chwilio am gynlluniau ynni amgen, creu ynni ein hunain e.e. drwy baneli solar ayyb
- Mae’n bosib bydd y broblem o swyddi gwag mewn rhai adrannau yn parhau
- Bydd angen rhoi mwy o amser ac egni i chwilio am ffynonellau ariannol amgen
Sector
- Mae yn bosib y bydd rhai Cylchoedd Meithrin yn gweld y cyfnod hyn yn anodd yn ariannol. Yn enwedig y rhai sydd ddim gyda gymaint o arian wrth gefn.
- Mae’n bosib na fydd gweithgareddau codi arian yn codi gymaint o arian ac a fu’n bosibl yn draddodiadol. Ac mi all rhai Cylchoedd Meithrin gau oherwydd y pwysau ariannol.
Pa ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
- Angen cymorth ar Gylchoedd Meithrin / busnesau bach tuag at gostau trydan a nwy yn ystod y cyfnod hyn.
- Cynnig help uwch i’r rhai sydd ar gyflogau llai drwy gynyddu budd-daliadau ag help ychwanegol i’r rhai sydd mewn swyddi a sydd ar cyflogau llai.
- Sicrhau fod cyllid Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg, addysg gynnar yn cynyddu’n flynyddol (gan hefyd ystyried help disgresiynol neu “top up” mewn cyfnod o her neilltuol fel nawr)
- Ystyried annog sefydliadau i greu ‘hybiau’ gweithio neu i alluogi hynny ymysg cyflogwyr
I ba raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?
- Mae’n bendant fod effeithiau costau byw cynyddol yn effeithio’n uwch ar bobl a nodweddion gwarchodedig a phobl sydd o statws economaidd-gymdeithasol is. Mae felly yn holl bwysig fod unrhyw gymorth yn cael ei thargedu at y grwpiau hyn yn gyntaf.